

Cwnsela
Mae cwnsela’n fath o therapi siarad sy’n rhoi lle diogel a chyfrinachol i ni siarad ac archwilio teimladau anodd. Bwriad cwnsela yw ein helpu i ddelio gyda phroblemau sy’n achosi poen emosiynol neu’n gwneud i ni deimlo’n bryderus ac yn flin tu mewn, ac yna ddod dros y problemau yma.
Mae bywyd yn gallu taflu pob math o sialensiau atom, boed hynny yn yr ysgol, yn y gwaith, o fewn y teulu neu berthynas, neu anawsterau sy’n codi o’r tu mewn. Mae creu lle yn ein bywydau a chymryd yr amser i ganolbwyntio ar yr anawsterau a’r heriau yma mewn amgylchedd tawel heb neb i’n beirniadu’n gallu bod o gymorth enfawr.
Mae cwnselydd wedi cael ei hyfforddi i wrando gydag empathi a bydd yn gweithio i’ch helpu i ddod i ddeall eich meddyliau a theimladau negyddol. Mae’r cwnselydd yno i gefnogi a pharchu barn yr unigolyn heb eu beirniadu. Ni fydd fel arfer yn rhoi cyngor, ond bydd yn helpu i ganfod mwy o wybodaeth am broblemau ac yn gweithio i’w deall nhw’n well.
Mae Alison Humphreys yn Gwnselydd sy’n hapus i weld plant ac oedolion sydd efallai’n cael trafferth gyda phroblemau megis:
- Straen - mewn perthynas â’r ysgol, cyfeillion, y gwaith, perthnasau o fewn y teulu, aeddfedu
- Iselder neu hwyliau isel / Gorbryder
- Profedigaeth a cholled
- Trawma
- Camdriniaeth
- Diffyg cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
- Rheoli anabledd/anhwylderau iechyd
Cafodd Alison MSc mewn Cwnsela a Seicoleg yn 2013 ac mae ganddi gefndir o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Ffisiotherapydd lle gwelodd lawer o bobl yn cael trafferth nid yn unig gyda’u hiechyd ond hefyd gyda phroblemau emosiynol a seicolegol. Cafodd ei hysbrydoli gan hyn i hyfforddi fel cwnselydd a gwelodd mor werthfawr oedd rhoi amser i bobl siarad am eu teimladau a gweithio gyda nhw i newid neu dderbyn eu sefyllfa.
Mae hi wedi gweithio fel cwnselydd mewn meddygfa yn helpu pobl sy’n cael trafferth gyda phob mathau o broblemau. Mae Alison yn fam i dri o blant hŷn, mae ganddi brofiad o waith ieuenctid a chymunedol a wnaeth yn wirfoddol a chefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Mae Alison yn gweithio’n bennaf fel cwnselydd sy’n canolbwyntio ar bobl ac mae’n gweithio ochr yn ochr â phobl i’w galluogi i ganfod ffordd ymlaen. Mae hi hefyd yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) ac agweddau o Therapi sy’n Canolbwyntio ar Atebion. Yn ogystal, mae hi’n aml yn defnyddio dulliau creadigol o roi therapi megis defnyddio deunyddiau celf, ysgrifennu, hambwrdd dywod a modelu sydd weithiau’n gallu teimlo’n haws na dim ond siarad.
Mae Alison yn aelod o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) ac mae hi’n gweithio o fewn canllawiau moesegol y gymdeithas honno. Mae ganddi ddatgeliad DBS manwl (sef y CRB gynt).
Cyswllt

Alison Humphreys Cwnselydd
MSc Seicoleg Cwnsela
Dip Ffisiotherapi
07582 207972
alison@positiveleap.co.uk


