![Beth yw barn y myfyrwyr? Mae Jayne yn gwneud dysgu’n hwyl ac yn eich helpu gyda’r pethau sy’n achosi trafferth i chi. Izzy, 11 oed](../images/testimonials/6.jpg)
![Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol](../images/banners/12.jpg)
Cymorth gyda Llythrennedd
Mae Positive Leap yn cynnig gwasanaeth i amrywiol oedrannau ac mae’n teilwra’r addysgu i gyfateb ag anghenion yr unigolyn. Mae’n neilltuo amser yn bwyllog i ganfod sut mae pob unigolyn yn dysgu ac yn cofio gwybodaeth allweddol, am fod hyn yn hanfodol i’r dysgu a’r addysgu. Mae’n defnyddio strategaethau i sicrhau bod unigolion yn deall yn well ac yn datblygu technegau cofio.
Mae’n cynnig hyfforddiant i wella sgiliau darllen, sillafu, ysgrifennu a’r rheolaeth dros fân symudiadau; a gall ymdrin â sgiliau trefnu a thechnegau astudio ac adolygu.
Mae’r gwersi wedi’u cynllunio’n ofalus ac yn dysgu trwy ddefnyddio nifer o’r synhwyrau. Trwy weithio mewn dilyniant, gyda’r cyfle i or-ddysgu, mae’r unigolyn yn dysgu sgiliau hanfodol. Rhwng y tasgau sy’n haws eu cyflawni mae sialens fechan bob hyn a hyn, sy’n gadael i’r myfyriwr ddatblygu a magu hyder.
Y pwyslais yn Positive Leap yw gwneud dysgu’n brofiad i’w fwynhau.
Pan fydd pobl o unrhyw oedran yn hapus ac wedi ymlacio, gallent dderbyn a deall gwybodaeth newydd yn llawer gwell. Am y rheswm yma, defnyddir amrywiaeth o gemau a rhaglenni meddalwedd i atgyfnerthu’r dysgu.
Rhagor o Wybodaeth
![Positive Leap, Wrecsam](../images/squares/7.jpg)
![Positive Leap, Wrecsam](../images/squares/8.jpg)
![Positive Leap, Wrecsam](../images/squares/9.jpg)