Am fynd i’r Brifysgol? Gofynnwch Am Asesiadau Lwfans Myfyrwyr Anabl
Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol

Positive Leap

Mae Positive Leap yn cefnogi plant ac oedolion sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol - Dyslecsia, Dyspracsia (DCD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) a Dyscalcwlia.

Mae hyfforddiant arbenigol ar gael i gefnogi unigolion i ddatblygu eu llythrennedd a rhifedd, mae’n cydnabod cryfderau unigolion ac yn adnabod ac ymdrin ag anghenion penodol. Mae pwyslais ar ddysgu drwy ddefnyddio gwahanol synhwyrau a defnyddio strategaethau cofio fel bod y dysgwr yn gallu cadw’r gwelliannau yma mewn llythrennedd a rhifedd. Mae cymorth ar gael hefyd i’r rheiny sydd angen cefnogaeth i wella eu sgiliau astudio a’u technegau arholiad.

Mae Therapi Galwedigaethol ar gael i’r bobl hynny sydd ag anawsterau cydsymud motor, tra bo ein Therapydd Iaith a Lleferydd yn cefnogi unigolion gyda’u hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu. Gall ein Cwnselwr gefnogi oedolion a phlant fel ei gilydd sy’n cael anawsterau emosiynol.

P’un a ydyw’r anghenion yn rhai dros dro neu dymor hirach, mae cymorth wrth law.

Gwnawn asesiadau diagnostig llawn yn Positive Leap, gan gynnwys asesiadau i gefnogi ceisiadau DSA; mae modd asesu straen gweledol hefyd.

Mae myfyrwyr yn teithio i Positive Leap o ardal eang - o rannau o Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Cilgwri a Gogledd Cymru a chyn belled â Chonwy. Mae’r rheiny sy’n cael cefnogaeth yn mynd i ysgolion a gynhelir, ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth a phrifysgolion.

Fel mae ei enw’n awgrymu, mae Positive Leap yn dathlu doniau’r rhai sydd ag anawsterau dysgu penodol yn ogystal â rhoi strategaethau iddynt i ymdrin â’r anawsterau.

Positive Leap, WrecsamPositive Leap, WrecsamPositive Leap, Wrecsam
Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni