Beth yw barn y myfyrwyr? Trwy gael gwersi rwyf wedi dod yn fwy hyderus gyda rhifau ac mae mathemateg yn dod yn haws i mi. Abbie, 9 oed
Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol

Ein Cefndir

Cafodd Positive Leap ei sefydlu i ateb y galw am hyfforddiant ac asesu arbenigol. Mae’n rhoi cefnogaeth i blant ac oedolion sydd â phob mathau o Anawsterau Dysgu Penodol, ac i’r rheiny sy’n cael anawsterau llythrennedd a rhifedd. Gall roi cyngor hefyd am y trefniadau mynediad priodol i’r rhai sy’n sefyll arholiad. Mae gan Positive Leap ddau Therapydd Galwedigaethol, Cwnselwr, Therapydd Iaith a Lleferydd a seicolegydd Addysgol cwbl gymwysedig.

Ein nod yw gwella’r cyfle i’r unigolyn ddysgu bob amser a helpu rhieni ac athrawon i ddeall sut y gallent gyfrannu at y broses o gyflawni hynny.

Yn rhedeg Positive Leap mae Jayne Evans BAdd anrh, MA Add, AMBDA, AMBDA Rhifedd, CCET; athrawes arbenigol gyda 17 mlynedd o brofiad o weithio gydag unigolion sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol o rai 5 oed i’r rhai sy’n troi’n oedolion. Mae hi wedi gweithio mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol ac mae hi wedi cefnogi myfyrwyr gydag Anawsterau Dysgu Penodol yn y brifysgol; yn ogystal mae hi wedi gwneud dwy swydd ddarlithio mewn dwy brifysgol. Mae Jayne hefyd yn cydlynu’r Sefydliad Dyspracsia yng Ngogledd Cymru a Swydd Amwythig. Mae hyn wedi cyfrannu’n fawr at ei gwybodaeth am ddyspracsia ac mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o’r anawsterau sy’n wynebu plant a’u rhieni. Mae hi’n aelod o Patoss, NASEN, Afasic, Cymdeithas Dyslecsia Prydain, y Gymdeithas Dyslecsia Lleol ac mae hi’n aelod proffesiynol o’r Sefydliad Dyspracsia. Mae hi hefyd yn aelod o Banel Addysg y Sefydliad Dyspracsia.

Mae gan ein Athrawon Arbenigol wledd o brofiad mewn ymdrin ag anghenion unigolion gydag amrywiaeth o Anawsterau Dysgu Penodol. Mae gan yr holl athrawon yn Positive Leap indemniad proffesiynol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac mae ganddynt dystysgrif DBS.

Positive Leap, WrecsamPositive Leap, WrecsamPositive Leap, Wrecsam
Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni