Beth yw barn y myfyrwyr? Mae Positive Leap wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy arholiadau, nid mewn mathemateg yn unig ond wrth adolygu pynciau eraill hefyd. Seb, 12 oed
Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol

Cymorth gyda Llythrennedd

Mae Positive Leap yn cynnig gwasanaeth i amrywiol oedrannau ac mae’n teilwra’r addysgu i gyfateb ag anghenion yr unigolyn. Mae’n neilltuo amser yn bwyllog i ganfod sut mae pob unigolyn yn dysgu ac yn cofio gwybodaeth allweddol, am fod hyn yn hanfodol i’r dysgu a’r addysgu. Mae’n defnyddio strategaethau i sicrhau bod unigolion yn deall yn well ac yn datblygu technegau cofio.

Mae’n cynnig hyfforddiant i wella sgiliau darllen, sillafu, ysgrifennu a’r rheolaeth dros fân symudiadau; a gall ymdrin â sgiliau trefnu a thechnegau astudio ac adolygu.

Mae’r gwersi wedi’u cynllunio’n ofalus ac yn dysgu trwy ddefnyddio nifer o’r synhwyrau. Trwy weithio mewn dilyniant, gyda’r cyfle i or-ddysgu, mae’r unigolyn yn dysgu sgiliau hanfodol. Rhwng y tasgau sy’n haws eu cyflawni mae sialens fechan bob hyn a hyn, sy’n gadael i’r myfyriwr ddatblygu a magu hyder.

Y pwyslais yn Positive Leap yw gwneud dysgu’n brofiad i’w fwynhau.

Pan fydd pobl o unrhyw oedran yn hapus ac wedi ymlacio, gallent dderbyn a deall gwybodaeth newydd yn llawer gwell. Am y rheswm yma, defnyddir amrywiaeth o gemau a rhaglenni meddalwedd i atgyfnerthu’r dysgu.

Rhagor o Wybodaeth

Positive Leap, WrecsamPositive Leap, WrecsamPositive Leap, Wrecsam
Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni