Am fynd i’r Brifysgol? Gofynnwch Am Asesiadau í140Lwfans Myfyrwyr Anabl
Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol

Asesiadau

Gellir gwneud asesiadau diagnostig llawn i ganfod Anawsterau Dysgu Penodol yn Positive Leap. Yn gyffredinol, gall y rhain gymryd tua tair awr a gallent gael eu cwblhau dros un neu ddwy sesiwn, yn dibynnu ar yr unigolyn sy’n cael ei asesu. Mae’r asesiadau’n ymwneud â gallu gwaelodol, prosesu gwybyddol a chyflawniadau mewn llythrennedd (a rhifedd); a gwneir rhagor o asesiadau diagnostig lle bo’n briodol. Mae’r adroddiad ysgrifenedig a gynhyrchir yn dilyn yr asesiad yn un manwl, gydag argymhellion eang ynglyn â chymorth a mannau dysgu.

Gwneir yr asesiadau gan un o’n Aseswyr Athrawon Arbenigol neu gan ein Seicolegydd Addysg.

Mae gan Ros McCarthy BA, MA, AMBDA, APC a Janet Barlow BA (Anrh), TAR, AMBDA, APC gyfoeth o brofiad o asesu pobl o bob oedran a chanddynt Dystysgrif Ymarfer Cymeradwy cyfredol (Patoss). Mae Janet a Ros wedi’u cofrestru’n aseswyr cymeradwy gyda’r Pwyllgor Safonau Asesu Anawsterau Dysgu Penodol (SASC).

Mae asesiad yn arwain at well dealltwriaeth o anghenion yr unigolyn, sy’n golygu mwy o wybodaeth a thawelwch meddwl nid yn unig i’r unigolyn sydd â’r Anhawster Dysgu Penodol, ond hefyd i’r bobl o’u cwmpas. Gallai asesiad fel yma helpu athrawon a thiwtoriaid i werthfawrogi bod angen i fyfyrwyr gael eu haddysgu yn unol â’r ffordd maen nhw’n dysgu orau, gan gwrdd â’u hanghenion penodol. Gall Athrawon Arbenigol a Therapyddion yn Positive Leap gydweithio i greu cynlluniau ymyrraeth ac asesiadau cynhwysfawr, cyfunedig.

Mae angen i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol gael adroddiad asesiad a wneir ar ôl eu 16eg pen-blwydd, gydag argymhellion i sicrhau trefniadau mynediad mewn profion ac arholiadau. Gellir defnyddio’r adroddiad asesu diagnostig i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), sef cronfa wedi’i llunio i dalu am gefnogaeth i sicrhau bod y sefyllfa’n gyfartal i bob myfyriwr mewn Addysg Uwch.

Mae Jayne Evans a Janet Barlow yn aseswyr Syndrom Irlen hefyd, a chanddynt y cymwysterau i adnabod unigolion sydd â straen gweledol. Mae plant, ac oedolion hefyd weithiau, yn sôn bod eu golwg yn aflunio pan maent yn darllen oherwydd anawsterau gyda’u canfyddiad gweledol. Gall Positive Leap roi trosluniau lliw iddynt i ddiddymu rhai o’r problemau hyn.

Positive Leap, WrecsamPositive Leap, WrecsamPositive Leap, Wrecsam
Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni